RHAN IMATERION RHAGARWEINIOL

DehongliI12

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 19906;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

  • F1mae i “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), F3..., “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”), “Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”), “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”), “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”), “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”), “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”), “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) F4Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yr ystyr a roddir iddynt, yn eu trefn, yn Atodlen 1;

  • ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;

  • ystyr “Rheoliadau'r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 854/2004, Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 2075/2005; ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

3

Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.

4

Pan gaiff unrhyw sywddogaethau o dan y Ddeddf eu haseinio—

a

drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Haint) 19847, i awdurdod iechyd porthladd neu

b

drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 19368, i gyd-bwyllgor dros ranbarth unedig;

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.

5

Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—

a

yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

b

yn ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19719,

hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.

F26

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd.