RHAN IIIGWEINYDDU A GORFODI

Yr hawl i apelio20

1

Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan—

a

penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu

b

penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu

c

penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,

apelio i lys ynadon.

2

Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 198015 fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

3

Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw—

a

un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu

b

yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,

a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.