RHAN IIIGWEINYDDU A GORFODI

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiroI122

1

Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

2

Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.

3

Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.

F14

Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.