YR ATODLENNI

F1ATODLEN 3AGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Rheoliad 17(5)

Annotations:
Amendments (Textual)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199535;

b

mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

c

pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

ch

pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

i

enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

ii

enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

iii

nifer y carcasau neu'r darnau; a

iv

rhywogaeth yr anifail; a

d

nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, F3o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375.

  • At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw F2Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol41, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893 ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

    1. i

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC38,

    2. ii

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE39, a

    3. iii

      Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE40 fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE41.