xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliad 17(6)

[F1ATODLEN 3BLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(1);

(b)mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

(c)pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

(ch)pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(i)enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

(ii)enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

(iii)nifer y carcasau neu'r darnau; a

(iv)rhywogaeth yr anifail.]

(1)

OJ Rhif L305, 22.11.2003, t.1.