YR ATODLENNI

ATODLEN 4GOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

Rheoliad 30

CwmpasI11

Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—

a

unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac

b

unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n oerI22

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—

a

sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,

ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—

a

yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,

ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerI33

Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

a

bwyd—

i

sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

ii

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

iii

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

b

bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

c

bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

i

pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

ii

pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

ch

bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

d

bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

dd

bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1906/90 yn gymwys iddo; ac

e

bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1907/90 yn gymwys iddo.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.I44

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

i

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

b

bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

c

nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

ch

nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

2

Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

a

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

b

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerI55

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

c

wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

a

wrthi'n cael ei drosglwyddo—

i

o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

ii

i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

b

wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

i

dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

ii

dadrewi'r cyfarpar, neu

iii

y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n dwymI66

Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—

a

wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;

b

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac

c

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,

yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cadw'n dwymI77

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—

i

ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a

b

bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliI88

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “oes silff” (“shelf life”)—

    1. a

      o ran bwyd y mae dangosiad parhauster lleiaf ar ei gyfer yn ofynnol yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Labelu Bwyd 199638 (ffurf ar ddangos parhauster lleiaf), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y dangosiad hwnnw;

    2. b

      o ran bwyd y mae dyddiad “use by” wedi'i neilltuo ar ei gyfer ar y ffurf sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (ffurf ar ddangos dyddiad “use by”), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad hwnnw; ac

    3. c

      o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1906/90” (“Council Regulation 1906/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod39 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1101/98 sy'n diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90 ynghylch safonau marchnata penodol ar gyfer cig dofednod40;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1907/90” (“Council Regulation 1907/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau41 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2052/2003 yn diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau42;

  • ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);