YR ATODLENNI

ATODLEN 4GOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerI15

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

c

wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

a

wrthi'n cael ei drosglwyddo—

i

o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

ii

i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

b

wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

i

dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

ii

dadrewi'r cyfarpar, neu

iii

y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.