YR ATODLENNI

ATODLEN 5Y MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

Rheoliad 31

CwmpasI11

Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionI22

1

Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

2

Rhaid i'r cynhyrchydd—

a

cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

b

cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

c

trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddI33

Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.