xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 32
1. Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
2.—(1) Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.LL+C
(2) Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.
(3) Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
3. Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C
(a)ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a
(b)i'r canlynol—
(i)y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,
(ii)gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu
(iii)dosbarthwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
4. Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C
(a)y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;
(b)yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;
(c)o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac
(ch)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
5. Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:LL+C
Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml) | ≤ 20,000 |
Colifformau (cfu fesul ml) | < 100 |
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
6. Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
7. Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
8. Yn yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;
ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;
ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;
ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1