YR ATODLENNI

F21ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

Rheoliad 2(1)

Annotations:

Pecyn Rheoliad 2017/625

I34ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

Rheoliadau 2(1) a 17

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliadau'r ymuned

2. Y Pwnc

Erthygl 3 o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod pob cam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni'r gofynion perthnasol o ran hylendid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 852/2004.

Erthygl 4(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n gwneud gwaith cynhyrchu sylfaenol a gweithrediadau cysylltiedig penodol yn cydymffurfio â'r darpariaethau hylendid cyffredinol a bennir yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.

Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw gam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd ar ôl y camau hynny y mae Erthygl 4(1) yn gymwys iddynt yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol o ran hylendid a nodir yn Atodiad II i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.

Erthygl 4(3) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, fel y bo'n briodol, yn mabwysiadu rhai mesurau hylendid penodol.

Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn neu weithdrefnau parhaol ar sail egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Erthygl 5(2) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, pan fo unrhyw addasiad yn cael ei wneud i'r cynnyrch, y broses, neu i unrhyw gam yn y broses, yn adolygu'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 5(1) ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol iddi.

Erthygl 5(4)(a) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn darparu i'r awdurdod cymwys dystiolaeth eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1).

Erthygl 5(4)(b) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio'r gweithdrefnau a ddatblygwyd yn unol ag Erthygl 5 yn gyfoes.

Erthygl 5(4)(c) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn dal eu gafael ar ddogfennau a chofnodion am gyfnod priodol.

Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol F22â chyfraith y Deyrnas Unedig.

Erthygl 6(2), paragraff cyntaf Rheoliad

Gofyniad bod gweithredydd busnes bwyd yn hysbysu'r 852/2004 awdurdod cymwys o bob sefydliad o dan ei reolaeth sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd.

Erthygl 6(2), ail baragraff Rheoliad

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau 852/2004 bod gan yr awdurdod cymwys wybodaeth gyfoes am sefydliadau.

Erthygl 6(3) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys pan fo angen cymeradwyaeth.

Erthygl 3(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 3(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn defnyddio unrhyw sylwedd heblaw dŵr yfadwy neu, pan fo Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 yn caniatáu ei ddefnyddio, dŵr glân i dynnu halogiad ar y wyneb oddi ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, oni bai bod defnyddio'r sylwedd wedi'i gymeradwyo.

Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd ddim ond yn rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid F23... os ydynt wedi'u paratoi a'u trafod yn y sefydliadau canlynol yn unig—

  1. a

    sefydliadau sy'n bodloni gofynion perthnasol Rheoliad 852/2004, rhai perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004 a gofynion perthnasol eraill cyfraith bwyd; a

  2. b

    y mae'r awdurdod cymwys wedi'u cofrestru neu, pan fo'n ofynnol yn unol ag Erthygl 4(2), wedi'u cymeradwyo.

Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw sefydliadau sy'n trafod y cynhyrchion hynny sy'n tarddu o anifeiliaid, ac y mae Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gosod gofynion ar eu cyfer, yn gweithredu onid yw'r awdurdod cymwys wedi'u cymeradwyo yn unol ag Erthygl 4(3).

Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad na ddylai sefydliadau sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) weithredu oni bai bod yr awdurdod cymwys, yn unol â Rheoliad 854/2004—

  1. a

    wedi rhoi cymeradwyaeth i'r sefydliad weithredu yn dilyn ymweliad ar y safle; neu

  2. b

    wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i'r sefydliad.

Erthygl 4(4) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol â Rheoliad 854/2004 gan gynnwys sicrhau bod sefydliad yn peidio â gweithredu os nad yw'n sefydliad cymeradwy mwyach.

Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn rhoi ar y farchnad gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'i drafod mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) oni bai—

  1. a

    bod marc iechyd wedi'i ddodi arno yn unol â Rheoliad 854/2004; neu

  2. b

    pan nad yw Rheoliad 854/2004 yn darparu ar gyfer dodi marc iechyd, bod marc adnabod yn cael ei ddodi yn unol ag Adran 1 o Atodiad II Reoliad 853/2004.

Erthygl 5(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad mai dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn unol â Rheoliad 853/2004 mewn sefydliadau sy'n bodloni gofynion Erthygl 4 y dylai gweithredwyr busnes bwyd ddodi marc adnabod ar gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid.

Erthygl 5(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn dileu marc iechyd a ddodwyd yn unol â Rheoliad 854/2004 oddi ar gig oni bai eu bod yn ei dorri neu'n ei brosesu neu'n gweithio arno mewn modd arall.

Erthygl 6(1) a (2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau mai dim ond pan fydd amodau penodol wedi'u bodloni y dylai mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ddigwydd.

Erthygl 6(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid sicrhau—

  1. a

    bod cynhyrchion yn cael eu rhoi ar gael i'w rheoli wrth iddynt gael eu mewnforio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC33;

  2. b

    bod y mewnforio yn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC34; ac

  3. c

    bod gweithrediadau o dan eu rheolaeth sy'n digwydd ar ôl y mewnforio yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Atodiad III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 6(4) o Reoliad 853/2004

Gofynion bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio bwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o blanhigion a chynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn sicrhau bod y cynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn bodloni gofynion paragraffau (1) i (3) o Erthygl 6.

Erthygl 7 o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod tystysgrifau neu ddogfennau eraill yn mynd gyda llwythi cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid pan fo'n ofynnol yn unol ag Atodiad II neu III i Reoliad 853/2004.

F24. . .

F24. . .

Erthygl 7(1) o Reoliad 2073/2005

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cymryd y mesurau a bennir ym mharagraffau (2) i (4) o Erthygl 7 pan fydd y canlyniadau ar ôl profi yn erbyn y meni prawf a osodir yn Atodiad I i Reoliad 2073/2005 (meini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd) yn anfoddhaol

Erthygl 9 o F8Reoliad 2015/1375

F9Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau. .

ATODLEN 3SWMPGLUDO OLEWAU HYLIFOL NEU FRASTERAU HYLIFOL AR LONGAU MORDWYOL A SWMPGLUDO SIWGR CRAI DROS Y MôR

Rheoliad 29

TramgwyddI11

Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Olewau hylifol neu frasterau hylifol

I22

1

Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a

b

pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.

2

At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr F10Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

I3I23

Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

rhaid i'r tanc fod yn danc dur gwrthstaen neu fod wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo; a

b

rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I4I24

Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir yngl^yn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I5I25

Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I6I26

Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Siwgr crai

I77

Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I8I78

Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

cyn llwytho'r siwgr crai, rhaid i'r daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer gael ei lanhau'n effeithiol i waredu gweddillion y cargo blaenorol ac unrhyw faeddu arall a'i arolygu i gadarnhau bod y gweddillion hynny wedi'u gwaredu'n effeithiol; a

b

rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd cyn y siwgr crai beidio â bod wedi bod yn swmp-hylif.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I9I79

Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I10I710

Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy F25yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg: “This product must be refined before being used for human consumption”.

I11I711

Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I12I712

Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I13I713

Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai—

a

ystyried y broses lanhau yr ymgymerwyd, hi cyn llwytho'r siwgr i'w gludo dros y môr yn bwynt rheoli critigol yn y modd y cyfeirir at “critical control point” yn Erthygl 5(2)(b) o Reoliad 852/2004; a

b

cymryd i ystyriaeth natur y cargo blaenorol sydd wedi'i gludo mewn unrhyw ddaliedydd, cynhwysydd neu dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo'r siwgr.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliF11I1414

At ddibenion yr Atodlen hon bydd unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Rheoliad hwnnw neu’r Gyfarwyddeb honno.

F1ATODLEN 3AGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Rheoliad 17(5)

Annotations:
Amendments (Textual)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199535;

b

mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

c

pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

ch

pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

i

enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

ii

enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

iii

nifer y carcasau neu'r darnau; a

iv

rhywogaeth yr anifail; a

d

nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, F20o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375.

  • At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw F13Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol41, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893 ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

    1. i

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC38,

    2. ii

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE39, a

    3. iii

      Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE40 fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE41.

ATODLEN 3BGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Rheoliad 17(6)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 199542;

b

mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

c

pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

ch

pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

i

enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

ii

enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

iii

nifer y carcasau neu'r darnau; a

iv

rhywogaeth yr anifail.

ATODLEN 3CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Rheoliad 17(7)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199543;

b

mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

c

bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

ch

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

d

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

ATODLEN 3ChGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)

Rheoliad 17(8)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 199544;

b

bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

c

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac

ch

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

ATODLEN 4GOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

Rheoliad 30

CwmpasI151

Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—

a

unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac

b

unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n oerI162

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—

a

sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,

ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—

a

yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,

ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerI173

Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

a

bwyd—

i

sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

ii

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

iii

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

b

bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

c

bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

i

pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

ii

pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

ch

bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

d

bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

dd

bwyd y mae F18Rheoliad y Comisiwn 543/2008 a Rheoliad 1308/2013 yn gymwys iddo; ac

e

bwyd y mae F19Rheoliad y Comisiwn 589/2008 a Rheoliad 1308/2013 yn gymwys iddo.

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.I184

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

i

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

b

bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

c

nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

ch

nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

2

Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

a

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

b

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerI195

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

c

wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

a

wrthi'n cael ei drosglwyddo—

i

o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

ii

i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

b

wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

i

dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

ii

dadrewi'r cyfarpar, neu

iii

y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n dwymI206

Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—

a

wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;

b

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac

c

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,

yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cadw'n dwymI217

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—

i

ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a

b

bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliI228

Yn yr Atodlen hon—

  1. ystyr “oes silff” (“shelf life”)—

    1. a

      F3o ran bwyd y mae dyddiad parhauster lleiaf yn ofynnol ar ei gyfer yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad parhauster lleiaf gofynnol;

    2. b

      o ran bwyd y mae angen dyddiad “use by” arno yn unol ag Erthygl 9(1)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i darllenir gydag Erthygl 24(1) a (2) o’r Rheoliad hwnnw, yw’r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad “use by”gofynnol; ac

    3. c

      o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.

  2. F14...

  3. F14...

  4. (aa)

    F15“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 543/2008” (“Commission Regulation 543/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod;

  5. (bb)

    F16“ystyr “Rheoliad y Comisiwn 589/2008” (“Commission Regulation 589/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau;

  6. (cc)

    F17“ystyr “Rheoliad 1308/2013” (“Regulation 1308/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007;

  7. ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);

ATODLEN 5Y MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

Rheoliad 31

CwmpasI231

Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionI242

1

Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

2

Rhaid i'r cynhyrchydd—

a

cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

b

cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

c

trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddI253

Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

ATODLEN 6CYFYNGIADAU AR WERTHU LLAETH CRAI A FWRIEDIR AR GYFER EI YFED YN UNIONGYRCHOL GAN BOBL

Rheoliad 32

I261

Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

F61A

Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7A yn cyflawni tramgwydd.

1B

Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7B yn cyflawni tramgwydd.

I272

1

Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.

2

Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.

3

Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I283

Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—

a

ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a

b

i'r canlynol—

i

y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,

ii

gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu

iii

dosbarthwr.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I294

Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—

a

y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;

b

yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;

c

o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac

ch

yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I305

Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:

Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml)

≤ 20,000

Colifformau (cfu fesul ml)

< 100

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I316

Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I327

Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

F57A

Ac eithrio mewn achosion y mae paragraff 7B yn gymwys iddynt, rhaid i’r cynhwysydd y gwerthir unrhyw laeth crai ynddo fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r geiriau “This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.

7B

Yn achos unrhyw laeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r geiriau “Milk supplied in this establishment has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.” ymddangos ar—

a

label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo, neu

b

ar docyn neu hysbysiad, y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd, yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.

7C

Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7A, caiff y marc neu’r label gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.

7D

Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7B, caiff y label, tocyn neu hysbysiad gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth a ddarperir yn y sefydliad hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.

7E

Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn atal y canlynol rhag cael eu marcio neu eu labelu, fel y bo’n briodol, â thestun sy’n cyfateb i’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraffau 7A a 7B mewn unrhyw iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg—

a

y cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo;

b

yn achos llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo—

i

label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo,

ii

tocyn neu hysbysiad y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.

I338

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;

  • ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;

  • F7mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;

  • ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;

  • ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.

F2...

Annotations:

F2

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12ATODLEN 7...

Annotations:

F121

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F122

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F123

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F124

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F125

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F125

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F126

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F127

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F128

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F129

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1210

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1211

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F412

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F413

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F414

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1215

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1216

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .