(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 55 — 57 o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu ar gyfer arolygiad o'r gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru gan y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) Mae'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau cyfyngedig â gwarantau, sy'n gweithredu ar y cyd fel Gyrfa Cymru. Mae darpariaethau Deddf 2005 yn cymryd lle'r darpariaethau a geid gynt yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r gofynion parthed arolygiad yn cael eu tynhau a'u gwneud yn fwy cyfatebol i'r rheini sy'n gymwys i ysgolion. Mae adrannau 55 — 57 yn darparu fframwaith, gan adael y manylion i gael eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny.

Mae Rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 3 yn delio ag arolygiadau cyntaf. Rhaid i ddarparydd gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau eraill na chafodd ei arolygu o'r blaen gael ei arolygu o fewn cyfnod o chwe mlynedd o'r dyddiad pryd y daeth gyntaf yn ddarparydd.

Mae Rheoliad 4 yn darparu fod darparwyr presennol i gael eu harolygu bob chwe blynedd. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad o arolygiad gael ei baratoi o fewn deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad cwblhau'r arolygiad.

Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gwaith (fel a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw) gael ei baratoi yn dilyn arolygiad.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gwaith gael ei baratoi o fewn cyfnod o hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y derbyniodd y darparydd gopi o'r adroddiad o'r arolygiad.

Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer anfon copïau o adroddiadau a chynlluniau gwaith i bersonau dynodedig, ac ar gyfer eu cyhoeddi yn swyddfeydd y darparydd ac ar y rhyngrwyd.