- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AETHYDDIAETH,CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym
26 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).
I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn y Ddeddf Amaethyddiaeth a bennir uchod, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn yn rhinwedd y ffaith iddo gael ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd(3).
Bu ymgynghori yn ystod paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Deddf Amaethyddiaeth 1970 neu fel y bo'n briodol o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 26 Rhagfyr 2006.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(5) yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn Rhan B o Atodlen 4 (cyfyngiadau ar amrywiad), ar ôl y cofnodion sy'n ywmneud â methionin mewnosoder y cyfnodion ar gyfer lleithedd fel a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(3) O ran y tabl ym Mhennod A o Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol)—
(a)yn lle'r cofnodion yn y tabl hwnnw sy'n ymwneud â chadmiwm, deuocsin, flworin a phlwm yn eu trefn rhodder y cofnodion ar gyfer y sylweddau hynny fel a osodir yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;
(b)ar ôl y cofnodion ar gyfer deuocsin mewnosoder y cofnodion ar gyfer y swm o ddeuocsinau a PCBs o fath deuocsin fel a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, ac
(c)yn droednodiadau i'r tabl hwnnw ychwaneger y troednodiadau i'r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) O ran y tabl ym Mhennod D o Atodlen 5 —
(a)yn lle'r cofnodion yn y tabl hwnnw sy'n ymwneud â chamffeclor (tocsaffen) rhodder y cofnodion fel a osodir yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; a
(b)yn droednodyn i'r tabl hwnnw ychwaneger y troednodyn i'r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(6) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ôl rheoliad 24, mewnosoder y rheoliad canlynol—
“24A.—(1) At ddibenion cyflawni ymchwiliadau, yn unol ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32, er mwyn penderfynu ffynhonnell y sylweddau annymunol hynny a restrir yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno pan fydd trothwyon gweithredu a bennir yn yr Atodiad hwnnw wedi cael eu cyrraedd, caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac wrth ddangos, os gofynnir amdani, ddogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, fynd i mewn i unrhyw fangre (nad yw'n fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) lle mae gan y swyddog achos rhesymol dros gredu bod bwyd anifeiliaid yn cael neu wedi cael ei weithgynhyrchu neu ei gynhyrchu, wedi'i roi ar y farchnad neu'n cael ei gadw er mwyn ei roi ar y farchnad, ei gynnwys mewn unrhyw gynnyrch arall neu ei ddefnyddio.
(2) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn —
(a)mynd â'r personau eraill hynny gydag ef y mae'r swyddog yn tybio eu bod yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar;
(b)arolygu unrhyw beth y mae gan y swyddog hawl i'w arolygu o dan reoliad 24(5), ac
(c)cymryd sampl yn y fangre honno o unrhyw ddeunydd y mae'n ymddangos i'r swyddog sy'n fwyd anifeiliaid a weithgynhyrchwyd, a gynhyrchwyd, a roddwyd ar y farchnad neu y bwriedir ei roi ar y farchnad neu sy'n ddeunydd a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid.
(3) Os bydd swyddog awdurdodedig er mwyn cymryd sampl yn unol â pharagraff (2)(c) yn cymryd deunydd o un cynhwysydd neu fwy ohonynt y mae pob un ohonynt yn pwyso dim mwy na chwe chilogram, ac sydd wedi cael eu datgelu i'w gwerthu drwy fanwerthu, caiff perchennog y cynhwysydd neu'r cynwysyddion ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog awdurdodedig brynu'r cynhwysydd neu'r cynwysyddion ar ran yr awdurdod y mae'r swyddog yn gweithio iddo.
(4) Mae gan swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn yr un hawliau i gael gweld, arolygu a chopïo cofnodion, gan gynnwys cofnodion a gedwir ar gyfrifiadur neu a gynhyrchir ganddo, fel a bennir ym mharagraff (9)(a) a (b) a (10)(c) o reoliad 24.
(5) Mae paragraff (14) o reoliad 24 yn gymwys i'r pwer mynediad o dan y rheoliad hwn fel y mae'n gymwys i'r cyfryw bwerau o dan y rheoliad hwnnw.
(6) Ystyr Cyfarwyddeb 2002/32 yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(7) ar sylweddau annymunol mewn bwyd aneifiliaid, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC(8), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100(9), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC(10), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/86/EC(11), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/87/EC(12) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC(13).”
(1) Ym mharagraff (4) o reoliad 27, ar ôl yr ymadrodd “reoliad 24” mewnosoder “neu reoliad 24A”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006
Rheoliad 2(2)
“Analytical constituents | Limits of variation (absolute value in percentage by weight, except where otherwise specified) |
---|---|
Moisture | If present in excess—
|
“Column 1: Undesirable substances | Column 2: Products intended for animal feed | Column 3: Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12% |
---|---|---|
(1) Maximum levels refer to an analytical determination of this substance, whereby extraction is performed in nitric acid (5% w/w) for 30 minutes at boiling temperature. Equivalent extraction procedures can be applied where it can be demonstrated that the procedure used has an equal extraction efficiency. | ||
(2) WHO-TEFs for human risk assessment based on the conclusions of the World Health Organisation meeting in Stockholm, Sweden, 15-18 June 1997 (Van den Berg et al., (1998), Toxic Equivalency Factors (TEFs) for PCBs, PCDDs and PCDFs for Humans and for Wildlife, Environmental Health Perspectives, 106(12), 775). | ||
(3) The separate maximum level for dioxins (PCDD/F) remains applicable for a temporary period. The products intended for animal feed mentioned in column 2 have to comply both with the maximum levels for dioxins and with the maximum levels for the sum of dioxins and dioxin-like PCBs during that temporary period. | ||
(4) Fresh fish directly delivered and used without intermediate processing for the production of feed for fur-producing animals is not subject to the maximum levels, while maximum levels of 4.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg product and 8.0 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg product are applicable to fresh fish used for the direct feeding of pet animals, zoo and circus animals. The products, processed animal proteins produced from these animals (fur-producing animals, pet animals and zoo and circus animals) cannot enter the food chain and cannot be fed to farmed animals which are kept, fattened or bred for the production of food. | ||
(5) Maximum levels refer to an analytical determination of fluorine, whereby extraction is performed with hydrochloric acid 1 N for 20 minutes at ambient temperature. Equivalent extraction procedures can be applied where it can be demonstrated that the procedure used has an equal extraction efficiency.” | ||
Cadmium(1) | Feed materials of vegetable origin | 1 |
Feed materials of animal origin | 2 | |
Feed materials of mineral origin | 2 | |
except: | ||
— phosphates | 10 | |
Additives belonging to the functional group of compounds of trace elements | 10 | |
except: | ||
— copper oxide, manganous oxide, zinc oxide and manganous sulphate monohydrate | 30 | |
Additives belonging to the functional groups of binders and anti-caking agents | 2 | |
Premixtures | 15 | |
Mineral feeding stuffs: | ||
— containing less than 7% phosphorus | 5 | |
— containing 7% or more phosphorus | 0.75 per 1% phosphorus, subject to a maximum of 7.5 | |
Complementary feeding stuffs for pet animals | 2 | |
Other complementary feeding stuffs | 0.5 | |
Complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats and feeding stuffs for fish | 1 | |
except: | ||
— complete feeding stuffs for pet animals | 2 | |
— complete feeding stuffs for calves, lambs and kids, and other complete feeding stuffs | 0.5 | |
Dioxins (sum of polychlorinated dibenzo-para-dioxins (PCDDs) and polychlorinated dibenzofurans (PCDFs))expressed in World Health Organisation (WHO) toxic equivalents, using the WHO-TEFs (toxic equivalency factors) 1997(2)(3) | Feed materials of plant origin with the exception of vegetable oils and their by-products | 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg |
Vegetable oils and their by-products | 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Feed materials of mineral origin | 1.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Animal fat, including milk fat and egg fat | 2.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Other land animal products, including milk and milk products and eggs and egg products | 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Fish oil | 6.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Fish, other aquatic animals, their products and by-products, with the exception of fish oil and fish protein hydrolysates containing more than 20% fat(4) | 1.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Fish protein hydrolysates containing more than 20% fat | 2.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
The additives kaolinitic clay, calcium sulphate dihydrate, vermiculite, natrolite-phonolite synthetic calcium aluminates and clinoptilolite of sedimentary origin belonging to the functional groups of binders and anti-caking agents | 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Additives belonging to the functional group of compounds of trace elements | 1.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Premixtures | 1.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Compound feeding stuffs, with the exception of feed for fur-producing animals, pet foods and feed for fish | 0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Feed for fish and pet foods | 2.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg | |
Note in respect of all entries in column 3: upper bound concentrations are calculated on the assumption that all values of the different congeners below the limit of quantification are equal to the limit of quantification | ||
Sum of dioxins and dioxin-like PCBs (sum of polychlorinated dibenzo-para-dioxins (PCDDs), polychlorinated dibenzofurans (PCDFs) and polychlorinated biphenyls (PCBs)) expressed in World Health Organisation (WHO) toxic equivalents, using the WHO-TEFs (toxic equivalency factors) 1997(2) | Feed materials of plant origin with the exception of vegetable oils and their by-products | 1.25 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg |
Vegetable oils and their by-products | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Feed materials of mineral origin | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Animal fat, including milk fat and egg fat | 3.0 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Other land animal products, including milk and milk products and eggs and egg products | 1.25 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Fish oil | 24.0 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Fish, other aquatic animals, their products and by-products, with the exception of fish oil and fish protein hydrolysates containing more than 20% fat(4) | 4.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Fish protein hydrolysates containing more than 20% fat | 11.0 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Additives belonging to the functional groups of binders and anti-caking agents | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Additives belonging to the functional group of compounds of trace elements | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Premixtures | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Compound feeding stuffs, with the exception of feed for fur-producing animals, pet foods and feed for fish | 1.5 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Feed for fish and pet foods | 7.0 ng WHO-PCDD/F-PCB-TEQ/kg | |
Note in respect of all entries in column 3: upper bound concentrations are calculated on the assumption that all values of the different congeners below the limit of quantification are equal to the limit of quantification | ||
Fluorine(5) | Feed materials | 150 |
except: | ||
— feeding stuffs of animal origin other than marine crustaceans such as marine krill | 500 | |
— marine crustaceans such as marine krill | 3,000 | |
— phosphates | 2,000 | |
— calcium carbonate | 350 | |
— magnesium oxide | 600 | |
— calcareous marine algae | 1,000 | |
Vermiculite (E 561) | 3,000 | |
Complementary feeding stuffs | ||
— containing 4% phosphorus or less | 500 | |
— containing more than 4% phosphorus | 125 per 1% phosphorus | |
Complete feeding stuffs | 150 | |
except: | ||
— complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats | ||
— — in lactation | 30 | |
— — other | 50 | |
— complete feeding stuffs for pigs | 100 | |
— complete feeding stuffs for poultry | 350 | |
— complete feeding stuffs for chicks | 250 | |
Lead(1) | Feed materials | 10 |
except: | ||
— green fodder (including products such as hay, silage, fresh grass, etc) | 30 | |
— phosphates and calcareous marine algae | 15 | |
— calcium carbonate | 20 | |
— yeasts | 5 | |
Additives belonging to the functional group of compounds of trace elements | 100 | |
except: | ||
— zinc oxide | 400 | |
— manganous oxide, iron carbonate, copper carbonate | 200 | |
Additives belonging to the functional groups of binders and anti-caking agents | 30 | |
except: | ||
—clinoptilolite of volcanic origin | 60 | |
Premixtures | 200 | |
Complementary feeding stuffs | 10 | |
except: | ||
— mineral feeding stuffs | 15 | |
Complete feeding stuffs | 5 |
“Column 1: Undesirable substances | Column 2: Products intended for animal feed | Column 3: Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12% |
---|---|---|
(1) Numbering system according to Parlar, prefixed by either “CHB” or “Parlar #”:
| ||
Camphechlor (toxaphene) — sum of indicator congeners CHB 26, 50 and 62(1) | Fish, other aquatic animals, their products and by-products with the exception of fish oil | 0.02 |
Fish oil | 0.2 | |
Feeding stuffs for fish | 0.05 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifieliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14) a ddiwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69) ac O.S. 2006/2928 (Cy.263) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”), ac maent hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) Rheoliadau 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265) (“y Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau CE a ganlyn—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/86/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran camffeclor (OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.16);
(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/87/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran plwm, fflworin a chadmiwm (OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.19); ac
(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC sy'n diwygio Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid o ran deuocsinau a PCBs o fath deuocsin (OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.44).
3. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu hefyd ddarpariaeth a gynhwysir yng Nhgyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchredu fwydydd anifeiliaid cyfansawdd (OJ Rhif L86, 6.4.1979, t.30), fel y'i diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 807/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.36). Mae'r darpariaeth hon yn perthyn i gyfyngiadau ar amrywio ar gyfer datganiad o gynnwys lleithedd Bwydydd Anifeiliaid ar gyfer Anifeiliad anwes.
4. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r Rheoliadau Bwydydd Anifieiliaid—
(a)Yn Rhan B o Atodlen 4 drwy fewnosod cyfyngiadau ar amrywio ar gyfer datganiadau o gynnwys lleithedd bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes (rheoliad 2(2) ac Atodlen 1);
(b)ym Mhennod A o Atodlen 5 drwy ddiwygio'r cofnodion presennol ar gyfer cadmiwm, deuocsinau, fflworin a phlwm, a thrwy ychwanegu cofnodion newydd at swm y deuocsinau a PCBs o fath deuocsin (rheoliad 2(2) a Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn); a
(c)ym Mhennod D o Atodlen 5 drwy ddiwygiolr cofnodion presennol ar gyfer camffeclor (tocsaffen) (rheoliad 2(3) a Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn).
5. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid—
(a)drwy fewnosod rheoliad 24A newydd i roi i swyddogion awdurdodedig awdurdod bwyd anifeiliaid bwerau mynediad, samplu, arolygu a gweithgareddau cysylltiedig er mwyn cyflawni'r swyddogaethau ymchwil sy'n ofynnol gan Gyfarwyddeb 2002/32/EC fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/13/EC (rheoliad 3(2)); a
(b)drwy ddiwygio rheoliad 27(4) (sy'n ymdrin â datgelu gwybodaeth ynghylch samplu) er mwyn ymestyn ei gymhwysiad i samplu a gynhelir o dan reoliad 24A (rheoliad 3(3)).
6. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”; Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).
O.S. 2006/116 (Cy.14), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/617 (Cy.69) ac O.S. 2006/2928. (Cy.263).
OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10.
OJ Rhif L151, 19.6.2003, t.38.
OJ Rhif L285, 1.11.2003, t.33.
OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44.
OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.16.
OJ Rhif L318, 6.12.2005, t.19.
OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.44. Cyflwynodd y Gyfarwyddeb ddiwygio hon drothwyon gweithredu a'r gofyniad i ymchwilio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: