Diwrnodau penodedig2.
6 Rhagfyr 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—
(a)
adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith—
(i)
i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau ynghylch cynlluniau gwella hawliau tramwy a baratoir o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 20042, a
(ii)
i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (amrywiol swyddogaethau awdurdodau Parciau Cenedlaethol);
(b)
adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i'r graddau y mae'n darparu'r pŵer i ddyroddi canllawiau;
(c)
adran 102 o'r Ddeddf (diddymiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch—
(i)
(ii)
paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19815 yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf.