Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3343 (Cy.304)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2006

Yn dod i rym

1 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas รข pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.