Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â chynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol
11.—(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r gwerthwr roi datganiad niferoedd ysgrifenedig i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio'n daladwy iddo o ran cyfanswm y trafodion y codir tâl amdanynt ac y mae'r gwerthwr wedi ymwneud â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd a wneir ac y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —
(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b)y lle y caiff y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelo'r datganiad â hwy eu glanio, eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod; ac
(c)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac eithrio pysgod eigionol penodedig —
(i)enw pob llestr a nifer y llwythi y mae'n eu glanio,
(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a
(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n llai na'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);
(ch)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac sy'n bysgod eigionol penodedig —
(i)enw pob llestr a nifer y llwythi y mae'n eu glanio, a
(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;
(d)hysbysiad o unrhyw swm a dalwyd o dan reoliad 10(5) ac a dalwyd mewn cysylltiad â —
(i)llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, neu
(ii)llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,
gan bennu o dan ba is-baragraff o'r paragraff, p'un ai (b)(i) neu (b)(ii), y gwnaed y taliad hwnnw;
(dd)mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol —
(i)cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol, a gaiff eu glanio, a
(ii)cyfanswm swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 o ran y cynhyrchion hynny; a
(e)swm y tâl glanio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —
(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob trafodyn a gynhwysir ynddo; a
(b)rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol i alluogi'r gwerthwr i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol.
(5) Bydd unrhyw werthwr a fydd heb esgus rhesymol —
(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu
(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff 3(a)
yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.