ATODLEN 2DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH

Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995

4.  Yn Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(1), yn Atodlen 1 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—

(a)yn lle'r cofnod ar gyfer “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;

(b)ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.

(1)

O.S. 1995/201, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/209, 2002/881, ac O.S.A. 2003/242; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.