Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001
9. Yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (1), yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “adroddiad” (“report”) , paragraff 2, paragraff 8 a pharagraff 16 (ym mhob lle y mae'n ymddangos) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;
(b)Ym mharagraff 2(a), yn lle “Comisiynydd Lleol” dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”; ac
(c)Ym mharagraff 8, yn lle'r “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.