- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Bydd deiliad Cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw berson, a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno tystiolaeth o'i awdurdod pan ofynnir amdani, fynd ar y tir y mae cytundeb Tir Cynnal yn berthnasol iddo at ddibenion —
(a)cyflawni unrhyw arolygiad o'r tir hwnnw neu o unrhyw ddogfen neu gofnod sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd ac sy'n ymwneud â'r cais neu y byddo'n rhesymol i berson a awdurdodir amau ei bod neu ei fod yn ymwneud â'r cais, gyda'r bwriad o wirio cywirdeb unrhyw fanylion a roddir yn y cais;
(b)sicrhau p'un a gydymffurfiwyd â thelerau cytundeb Tir Cynnal; ac
(c)cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.
(2) Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—
(a)cynhyrchu unrhyw ddogfen neu gofnod y byddo person a awdurdodwyd yn gofyn amdani neu amdano;
(b)caniatáu i'r person a awdurdodwyd wneud copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath neu o ddarnau ohoni neu ohono;
(c)os cedwir y ddogfen neu'r cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei chynhyrchu neu ei gynhyrchu ar ffurf y byddo'n hawdd ei darllen a'i dwyn ymaith; ac
(ch)ar gais y person a awdurdodwyd, mynd gyda'r person a awdurdodwyd pan fydd yn gwneud arolygiad o unrhyw dir er mwyn dangos pa ran o dir sy'n ymwneud â'r cais neu ag unrhyw newid yn ei feddiannaeth a hysbyswyd o dan reoliad 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: