Rhwymedigaeth i ganiatáu mynd ar y tir ac arolygu12

1

Bydd deiliad Cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw berson, a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno tystiolaeth o'i awdurdod pan ofynnir amdani, fynd ar y tir y mae cytundeb Tir Cynnal yn berthnasol iddo at ddibenion —

a

cyflawni unrhyw arolygiad o'r tir hwnnw neu o unrhyw ddogfen neu gofnod sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd ac sy'n ymwneud â'r cais neu y byddo'n rhesymol i berson a awdurdodir amau ei bod neu ei fod yn ymwneud â'r cais, gyda'r bwriad o wirio cywirdeb unrhyw fanylion a roddir yn y cais;

b

sicrhau p'un a gydymffurfiwyd â thelerau cytundeb Tir Cynnal; ac

c

cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.

2

Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—

a

cynhyrchu unrhyw ddogfen neu gofnod y byddo person a awdurdodwyd yn gofyn amdani neu amdano;

b

caniatáu i'r person a awdurdodwyd wneud copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath neu o ddarnau ohoni neu ohono;

c

os cedwir y ddogfen neu'r cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei chynhyrchu neu ei gynhyrchu ar ffurf y byddo'n hawdd ei darllen a'i dwyn ymaith; ac

ch

ar gais y person a awdurdodwyd, mynd gyda'r person a awdurdodwyd pan fydd yn gwneud arolygiad o unrhyw dir er mwyn dangos pa ran o dir sy'n ymwneud â'r cais neu ag unrhyw newid yn ei feddiannaeth a hysbyswyd o dan reoliad 10.