Adennill llog14.
(1)
Os telir cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn a'i bod, yn rhinwedd Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog gymorthdaliadau a delir ar gam), yn ofynnol ad-dalu gyda llog y cyfan neu ran o'r cymhorthdal, bydd cyfradd y llog un pwynt canran yn uwch na LIBOR a hynny ar sail ddyddiol.
(2)
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.
(3)
Mewn unrhyw achosion a fydd yn ymwneud รข'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r raddfa sy'n gymwys yn y cyfnod a bennir os bydd y dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r raddfa honno.