xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8. Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy'n ymwneud â materion a nodwyd yn rheoliad 3 gael ei wneud cyn pen 28 diwrnod ar ôl—
(a)1 Gorffennaf 2006; neu
(b)os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y mae'r awdurdod yn cael map, datganiad, mynegiad neu gais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo,
a rhaid i'r gofrestr gael ei diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 1 Gorffennaf 2006 beth bynnag) i gymryd i ystyriaeth unrhyw un o'r materion a nodwyd ym mharagraffau rheoliadau 4 a 5.