xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 62 (Cy. 11)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

18 Ionawr 2006

Yn dod i rym

23 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid Buchol (Gorfodi Cynllun Prynu'r Gymuned) 1996(3) i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru.

Tramgwyddau

3.—(1Mewn lladd-dy, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ar 19 Ebrill 1996 (“y Rheoliad Comisiwn”) sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(4) y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen, bydd gweithredydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd.

(2Mewn mangre lle y ceir hylosgydd neu mewn safle prosesu, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o'r Atodlen, bydd gweithredydd y fangre honno yn euog o dramgwydd.

Gorfodi a phenodi arolygwyr

4.  Mae'r Rheoliadau i'w gorfodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhaid iddo benodi arolygwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad a phwerau arolygwyr

5.—(1Mae gan arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod ef neu hi, hawl ar bob adeg resymol i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad Comisiwn; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

(2Caiff arolygydd—

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)mynd at, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys rhoi iddo'r cyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd ag unrhyw berson arall gydag ef, y mae ef neu hi o'r farn bod ei angen.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a osodwyd o dan baragraff (2)(dd) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth ef neu hi yno gyntaf.

Rhwystro

6.  Mae unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw ef neu hi—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu,

(ch)yn methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith.

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7.  Os yw arolygydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn iechyd anifail neu iechyd cyhoeddus neu os oes unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn nas cydymffurfir â hi, caiff ef neu hi gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd â sgil-gynnyrch anifeiliaid yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddo ef neu hi ei waredu fel a benno yn yr hysbysiad (ac os oes angen, pennu sut i'w storio cyn ei waredu).

Cydymffurfio â hysbysiadau

8.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu cydymffurfedd ag ef ar draul y person hwnnw.

(2Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hybsysiad hwnnw neu'n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o dramgwydd.

Cosbau

9.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu'r ddau, neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2006

Rheoliad 3

YR ATODLENDARPARIAETHAU RHEOLIAD Y COMISIWN (EC) RHIF 716/96

RHAN 1DARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I WEITHREDWYR LLADD-DAI

Darpariaeth Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 (“y Rheoliad Comisiwn”)Y pwnc
Erthygl 1(2)Gofyniad bod pennau, organau mewnol a charcasau'n cael eu staenio'n barhaol
Erthygl 1(2)Gofyniad bod deunyddiau a staeniwyd yn cael eu cludo mewn cynwysyddion a seliwyd i hylosgyddion awdurdodedig arbennig neu i weithfeydd rendro
Erthygl 1(2)Gwahardd unrhyw ran o anifail a gigyddwyd o dan y Rheoliad Comisiwn rhag mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ar gyfer pobl neu anifeiliaid na chael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchion cosmetig neu fferyllol
Erthygl 1(3)Gofyniad nad oes unrhyw anifail buchol a fwriedir ei fwyta gan bobl yn bresennol mewn lladd-dy pan gigyddir anifeiliaid o dan y Rheoliad Comisiwn
Erthygl 1(3)Gofyniad, pan fydd angen rhoi anifeiliaid sydd i'w cigydda o dan y Rheoliad Comisiwn mewn gwalfeydd cyn eu cigydda, eu bod yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliaid buchol eraill a fwriedir eu bwyta gan bobl neu gan anifeiliaid
Erthygl 1(3)Gofyniad, os yw'n angenrheidiol storio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a gigyddir o dan y Rheoliad Comisiwn, bod yn rhaid storio'r cynhyrchion hynny ar wahân i unrhyw gyfleuster storio a ddefnyddir ar gyfer cig neu gynhyrchion eraill a fwriedir eu bwyta gan bobl neu gan anifeiliaid

RHAN IIDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I WEITHREDWYR HYLOSGYDDION NEU WEITHFEYDD PROSESU

Darpariaeth Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 (“y Rheoliad Comisiwn”)Y pwnc
Erthygl 1(2)Gofyniad bod deunydd a staeniwyd yn cael ei brosesu a'i ddifa
Erthygl 1(2)Gwahardd unrhyw ran o anifail a gigyddwyd o dan y Rheoliad Comisiwn rhag mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ar gyfer pobl neu anifeiliaid na chael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchion cosmetig neu fferyllol
Erthygl 1(3)Gofyniad, os yw'n angenrheidiol storio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a gigyddir o dan y Rheoliad Comisiwn, bod yn rhaid storio'r cynhyrchion hynny ar wahân i unrhyw gyfleuster storio a ddefnyddir ar gyfer cig neu gynhyrchion eraill a fwriedir eu bwyta gan bobl neu gan anifeiliaid

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofynion penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005, sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig. Mae Rheoliad y Comisiwn (fel y'i diwygiwyd) yn cyflwyno cynllun sy'n awdurdodi'r Deyrnas Unedig i brynu unrhyw anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 nad yw'n arddangos unrhyw arwydd clinigol o BSE ac a oedd, yn ystod cyfnod o chwe mis o leiaf cyn ei werthu, yn bresennol ar ddaliad a leolir ar diriogaeth y Deyrnas Unedig. Pennir amryw o ofynion o ran cigydda, trin a gwaredu anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i'r cynllun.

Mae rheoliad 3 yn creu tramgwyddau o ran torri darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (fel y'i diwygiwyd) y cyfeirir atynt yng Ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yng Ngholofn 2) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 4 yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo benodi arolygwyr at y diben hwn. Mae rheoliadau 5 i 8 yn rhoi'r manylion am bwerau'r arolygwyr hynny, a chanlyniadau methu cydymffurfio â'r arolygwyr, neu eu rhwystro. O dan reoliad 9, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol, sef £5,000 ar hyn o bryd, neu dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb.

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

(4)

OJ Rhif L99, 20.4.96, t.14, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t.25).