xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Mewn lladd-dy, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ar 19 Ebrill 1996 (“y Rheoliad Comisiwn”) sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(1) y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen, bydd gweithredydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd.
(2) Mewn mangre lle y ceir hylosgydd neu mewn safle prosesu, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o'r Atodlen, bydd gweithredydd y fangre honno yn euog o dramgwydd.
OJ Rhif L99, 20.4.96, t.14, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t.25).