Enwi a Chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006.

Dirymu

2.—(1Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ymwneud â chorfforaethau addysg bellach yng Nghymru) drwy hyn wedi'u dirymu.

(2Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mawrth 2006