Diwygiadau canlyniadol
3.—(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a)adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;
(b)adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(); ac
(c)y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(i)Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976(),
(ii)Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a
(iii)Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000().
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(a)Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001();
(b)Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002().
(3) Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—
(a)yn lle “the appropriate Commission or Council”, rhodder “the Commission”;
(b)ar ôl “accepting any property”, mewnosoder “situated in England”;
(c)ar ôl “dealing with any”, mewnosoder “such”; ac
(ch)yn lle “the said Commission or Council”, rhodder “the Commission”.
(4) Yn—
(a)paragraff 2(2)(b) o Atodlen 9 i Ddeddf Trydan 1989(); a
(b)paragraff (a) o'r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 1992(),
yn lle “Historic Buildings Council”, rhodder “National Assembly”.