2006 Rhif 63 (Cy.12)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)1 a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”)2

A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: