Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 63 (Cy.12)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006

Wedi'i wneud

18 Ionawr 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)(1) a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”)(2)

A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: