2006 Rhif 64 (Cy.13)
Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)1, a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) sydd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”)2
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Bwrdd, sef yn bennaf cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1979, yn bennaf yn swyddogaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol rhoi cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun ac felly'n dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998
YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Bwrdd” (“the Board” ) yw Bwrdd Henebion Cymru.
Diddymu'r Bwrdd2
1
Diddymir y Bwrdd.
2
Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Bwrdd hawl iddynt, ac unrhyw rwymedigaethau y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol3
1
Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
a
adrannau 22 a 23 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 19793; a
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)