Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) ar hyn o bryd wedi'i gyfansoddi o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”). Prif Swyddogaeth y Bwrdd yw cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1979.

Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yw mai prif swyddogaeth y Bwrdd bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae'r Bwrdd wedi'i bennu yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth fel y mae yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Bwrdd o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Yn unol â hynny—

(a)mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Bwrdd a'i swyddogaethau ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Bwrdd i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i ddeddfiadau.