2006 Rhif 64 (Cy.13)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”)1, a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) sydd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”)2

A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Bwrdd, sef yn bennaf cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1979, yn bennaf yn swyddogaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol rhoi cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun ac felly'n dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.

3

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Bwrdd” (“the Board” ) yw Bwrdd Henebion Cymru.

Diddymu'r Bwrdd2

1

Diddymir y Bwrdd.

2

Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Bwrdd hawl iddynt, ac unrhyw rwymedigaethau y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt, i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau canlyniadol3

1

Diddymir y darpariaethau a ganlyn—

a

adrannau 22 a 23 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 19793; a

b

y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—

i

Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 19764;

ii

Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a

iii

Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 20005.

2

Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—

a

Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 20016; a

b

Rhan I o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 20027,

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) ar hyn o bryd wedi'i gyfansoddi o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”). Prif Swyddogaeth y Bwrdd yw cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1979.

Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yw mai prif swyddogaeth y Bwrdd bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae'r Bwrdd wedi'i bennu yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth fel y mae yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Bwrdd o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Yn unol â hynny—

a

mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r Bwrdd a'i swyddogaethau ac yn trosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y Bwrdd i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

b

mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i ddeddfiadau.