- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”)(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(2).
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar 16 Mawrth 2006—
(a)adran 47 (diddymu'r gofyniad i gontractio swyddogaethau gwaredu gwastraff allan);
(b)adran 53 (y pŵer i awdurdodau casglu gwastraff ddefnyddio eu pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1990);
(c)yn Atodlen 4 (mân ddiwygiad a diwygiadau canlyniadol), paragraff 4; ac
(ch)yn Rhan 4 (gwastraff) o Atodlen 5, y diddymiadau i Ddeddf 1990 ac eithrio'r diddymiad i adran 33 o'r Ddeddf honno.
3. Daw cymaint o'r darpariaethau canlynol sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n gosod dyletswydd arno i wneud neu ddarparu drwy reoliadau neu orchmynion, neu roi cyfarwyddiadau neu roi neu ddyroddi canllawiau, neu ddarparu o ran arfer unrhyw bŵer o'r fath neu gyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath, i rym ar 16 Mawrth 2006—
adran 2;
adran 6;
adran 8;
adran 10;
adran 13;
adran 17;
adran 19;
adran 20;
adran 24;
adran 28;
adran 30;
adrannau 37 a 38:
adrannau 45 a 46;
adran 48;
adran 52;
adrannau 55 i 60;
adran 67;
adrannau 73 i 75;
adran 82;
adrannau 96 i 98;
adran 101; ac
adrannau 103 a 104.
4. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym pan ddaw Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym—
(a)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 104 (diwygio trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf 1990); a
(b)Rhan 10 o Atodlen 5 (diddymiadau).
5.—(1) Serch eu diddymu gan adran 47 o Ddeddf 2005 a Rhan 4 o Atodlen 5 iddi, mae adran 32 (fel y'i darllenir gydag adran 30(5)) o Ddeddf 1990 a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi yn parhau i gael effaith at ddibenion rheoleiddio—
(a)gweithgareddau cwmni a ffurfiwyd gan awdurdod gwaredu gwastraff neu y bu gan awdurdod gwaredu gwastraff ran yn ei ffurfio at ddibenion casglu gwastraff, neu waredu, cadw neu drin gwastraff, pan fydd y cwmni'n parhau o dan reolaeth yr awdurdod gwaredu gwastraff ar 16 Mawrth 2006; a
(b)swyddogaethau awdurdod gwaredu gwastraff mewn cysylltiad â chwmni o'r fath cyhyd ag y pery'r cwmni o dan reolaeth yr awdurdod.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “awdurdod gwaredu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste disposal authority” yn adran 30(2) o Ddeddf 1990 ac mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” yn adran 32(11) o'r Ddeddf honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) ar 16 Mawrth 2006—
(a)adran 47 (ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r adran honno, Rhan 4 o Atodlen 5);
(b)adran 53;
(c)paragraff 4 o Atodlen 4; ac
(ch)darpariaethau eraill i'r graddau y maent yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym, adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nas daw i rym drwy'r Gorchymyn hwn ar 16 Mawrth 2006), a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn—
(a)yn diddymu adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac Atodlen 2 iddi, a fydd yn dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol i gontractio allan eu swyddogaethau gwaredu gwastraff (adran 47 o Ddeddf 2005);
(b)yn gwneud rhai diddymiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005);
(c)yn rhoi effaith i fân ddiwygiad i adran 60(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 o ran ymyriad â safleoedd gwastraff a daliedyddion gwastraff (paragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005); ac
(ch)yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff i ddefnyddio'u pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (adran 53 o Ddeddf 2005).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf 2005 i'r graddau y maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth (neu i wneud darpariaeth drwy ddulliau o'r fath).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn). Mae adran 104 yn diwygio'r trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac yn dwyn i rym y diddymiad cysylltiedig yn Rhan 10 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005.
Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud arbediad ynglŷn â chychwyn adran 47 o Ddeddf 2005.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: