Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
Enwi, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 16 Mawrth 20062.
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar 16 Mawrth 2006—
(a)
adran 47 (diddymu'r gofyniad i gontractio swyddogaethau gwaredu gwastraff allan);
(b)
adran 53 (y pŵer i awdurdodau casglu gwastraff ddefnyddio eu pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1990);
(c)
yn Atodlen 4 (mân ddiwygiad a diwygiadau canlyniadol), paragraff 4; ac
(ch)
yn Rhan 4 (gwastraff) o Atodlen 5, y diddymiadau i Ddeddf 1990 ac eithrio'r diddymiad i adran 33 o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym at ddibenion penodol ar 16 Mawrth 20063.
Daw cymaint o'r darpariaethau canlynol sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n gosod dyletswydd arno i wneud neu ddarparu drwy reoliadau neu orchmynion, neu roi cyfarwyddiadau neu roi neu ddyroddi canllawiau, neu ddarparu o ran arfer unrhyw bŵer o'r fath neu gyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath, i rym ar 16 Mawrth 2006—
adran 2;
adran 6;
adran 8;
adran 10;
adran 13;
adran 17;
adran 19;
adran 20;
adran 24;
adran 28;
adran 30;
adrannau 37 a 38:
adrannau 45 a 46;
adran 48;
adran 52;
adrannau 55 i 60;
adran 67;
adrannau 73 i 75;
adran 82;
adrannau 96 i 98;
adran 101; ac
adrannau 103 a 104.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym4.
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym pan ddaw Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym—
(a)
i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 104 (diwygio trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf 1990); a
(b)
Rhan 10 o Atodlen 5 (diddymiadau).
Arbedion5.
(1)
Serch eu diddymu gan adran 47 o Ddeddf 2005 a Rhan 4 o Atodlen 5 iddi, mae adran 32 (fel y'i darllenir gydag adran 30(5)) o Ddeddf 1990 a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi yn parhau i gael effaith at ddibenion rheoleiddio—
(a)
gweithgareddau cwmni a ffurfiwyd gan awdurdod gwaredu gwastraff neu y bu gan awdurdod gwaredu gwastraff ran yn ei ffurfio at ddibenion casglu gwastraff, neu waredu, cadw neu drin gwastraff, pan fydd y cwmni'n parhau o dan reolaeth yr awdurdod gwaredu gwastraff ar 16 Mawrth 2006; a
(b)
swyddogaethau awdurdod gwaredu gwastraff mewn cysylltiad â chwmni o'r fath cyhyd ag y pery'r cwmni o dan reolaeth yr awdurdod.
(2)
Ym mharagraff (1), mae i “awdurdod gwaredu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste disposal authority” yn adran 30(2) o Ddeddf 1990 ac mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” yn adran 32(11) o'r Ddeddf honno.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (“Deddf 2005”) ar 16 Mawrth 2006—
adran 47 (ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r adran honno, Rhan 4 o Atodlen 5);
adran 53;
paragraff 4 o Atodlen 4; ac
darpariaethau eraill i'r graddau y maent yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym, adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nas daw i rym drwy'r Gorchymyn hwn ar 16 Mawrth 2006), a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn—
yn diddymu adran 32 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac Atodlen 2 iddi, a fydd yn dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol i gontractio allan eu swyddogaethau gwaredu gwastraff (adran 47 o Ddeddf 2005);
yn gwneud rhai diddymiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005);
yn rhoi effaith i fân ddiwygiad i adran 60(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 o ran ymyriad â safleoedd gwastraff a daliedyddion gwastraff (paragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005); ac
yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff i ddefnyddio'u pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (adran 53 o Ddeddf 2005).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf 2005 i'r graddau y maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth (neu i wneud darpariaeth drwy ddulliau o'r fath).
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn). Mae adran 104 yn diwygio'r trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ac yn dwyn i rym y diddymiad cysylltiedig yn Rhan 10 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005.
Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud arbediad ynglŷn â chychwyn adran 47 o Ddeddf 2005.