Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Ddeddf Plant 2004(1) (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru.

Daw'r Gorchymyn ag adran 25 o'r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2006. Daw adran 31 o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2006. Cafwyd cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o ran cychwyn y ddwy adran hon o'r Ddeddf.