Mae adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Addysg Lleol (yr awdurdod) ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol).
Mae adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (Deddf 2004) yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy Reoliadau, i awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, o bryd i'w gilydd, baratoi a chyhoeddi cynllun yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc berthnasol.
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf 1996 a 26 o Ddeddf 2004, ac maent yn dirymu ac yn disodli'r Rheoliadau canlynol:—
Rheoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998;
Rheoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001;
Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002;
Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003;
Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003, rheoliadau 5 i 7 a'r Atodlen;
Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Diwygio) (Cymru) 2005.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y materion canlynol:—
Y gofyniad am i awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 3);
Cynnwys Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 4 ac Atodlenni 2 a 3);
Cyfnod Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 5);
Y personau a'r cyrff y mae'n ofynnol i awdurdod ymgynghori â hwy pan fo'n paratoi Cynllun Addysg Sengl, ac ym mha ddull y mae'n ofynnol iddynt gyflawni'r ymgynghoriad hwnnw (rheoliad 6);
Y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod fabwysiadu Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 7);
Y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod gyhoeddi Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 8);
Diwygio Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad (rheoliad 9 a Rhan 3 o Atodlen 2);
Diwygio Gwybodaeth Ategol (rheoliad 10 ac Atodlen 3);
Ym mha ddull y mae'n ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi dogfennau (rheoliad 11);
Y personau y mae'n ofynnol i awdurdod ddarparu copïau o Gynllun Addysg Sengl ar eu cyfer (rheoliad 12);
Y darpariaethau trosiannol sy'n ymwneud ag adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 yn dod i rym (rheoliad 13).