Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl3.

(1)

Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2)

Rhaid i'r cynllun gynnwys datganiad ynghylch y weledigaeth a'r gwerthoedd strategol cyffredinol y mae'r awdurdod yn eu harddel wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o ran addysg, gan gadw mewn cof ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys, yn benodol, Deddf yr Iaith Gymraeg 19939, Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 197510, Deddf Cysylltiadau Hiliol 197611, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 199512, a Deddf Hawliau Dynol 199813.

(3)

Yn y rheoliad hwn ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26(1) o Ddeddf 2004 sy'n cwmpasu strategaethau'r awdurdod ar gyfer—

(a)

codi safonau addysg plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod neu heb fod yn yr ysgol;

(b)

gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)

cynllunio lleoedd ysgol a lleoedd meithrin i fodloni anghenion poblogaeth ardal yr awdurdod; ac

(ch)

addysgu disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd neu am resymau eraill;

ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.

(4)

Rhaid i gynnwys Cynllun Addysg Sengl gydymffurfio â rheoliad 4.