ATODLEN 2LLES PLANT SYDD I'W MAETHU YN BREIFAT
Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—
a
bod hyd arfaethedig y trefniant wedi cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—
i
rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a
ii
y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
b
dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
c
addasrwydd y llety arfaethedig;
ch
gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;
d
addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
dd
bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;
e
bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;
f
bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;
ff
bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
g
sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac
ng
a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.