Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006

Rheoliadau 3 a 5

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU YN YR HYSBYSIAD

1.  Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) yw—

(a)enw, rhyw, dyddiad a man geni, cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn;

(b)enw a chyfeiriad presennol y person sy'n rhoi'r hysbysiad ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;

(c)enw a chyfeiriad presennol gofalydd maeth arfaethedig y plentyn neu ofalydd maeth presennol y plentyn ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;

(ch)hyd arfaethedig y trefniant maethu preifat;

(d)enw a chyfeiriad presennol rhieni'r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac (os yw'n wahanol) unrhyw berson arall y derbynnir neu y derbyniwyd y plentyn oddi wrtho;

(dd)enw a chyfeiriad presennol brodyr a chwiorydd y plentyn sy'n finoriaid, a manylion y trefniadau am eu gofal;

(e)enw a chyfeiriad presennol unrhyw berson, heblaw person a bennir yn is-baragraff (d), sydd â rhan neu a fu â rhan (p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) wrth drefnu i'r plentyn gael ei faethu'n breifat; a

(f)y dyddiad y bwriedir bod y trefniant maethu yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gychwynnodd.

2.  Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—

(a)unrhyw dramgwydd y collfarnwyd ef ohono;

(b)unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r adrannau hynny;

(c)unrhyw gollfarn, datgymhwysiad neu waharddiad o'r fath a osodwyd ar unrhyw berson arall sy'n byw ar yr un aelwyd neu a gyflogir ar yr un aelwyd.

(ch)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg yn ei gylch;

(d)unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg o ran plentyn a fu yn ei ofal; ac

(dd)unrhyw hawl neu bŵer ynglŷn â phlentyn sydd neu a fu o dan ei ofal a gafodd eu breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf o dan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau hynny.

Rheoliad 4

ATODLEN 2LLES PLANT SYDD I'W MAETHU YN BREIFAT

Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—

(a)bod hyd arfaethedig y trefniant wedi cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—

(i)rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a

(ii)y gofalydd maeth preifat arfaethedig;

(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);

(c)addasrwydd y llety arfaethedig;

(ch)gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;

(d)addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;

(dd)bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;

(e)bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;

(f)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;

(ff)bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;

(g)sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac

(ng)a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 3LLES PLANT A FAETHIR YN BREIFAT

3.  Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau 7(1)(d) ac 8(4) yw—

(a)bod diben a hyd arfaethedig y trefniant maethu yn cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—

(i)rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a

(ii)y gofalydd maeth preifat;

(b)dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);

(c)bod datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad yn briodol a boddhaol;

(ch)bod anghenion y plentyn sy'n codi o'i gred grefyddol, ei darddiad hiliol, a'i gefndir diwylliannol ac ieithyddol yn cael eu diwallu;

(d)bod y trefniadau ariannol ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal yn gweithio;

(dd)gallu'r gofalydd maeth preifat i edrych ar ôl y plentyn;

(e)addasrwydd y llety;

(f)bod y trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol, wrth law, ac yn benodol, fod y plentyn wedi'i roi ar restr person sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

(ff)y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;

(g)safon y gofal a roddir i'r plentyn;

(ng)addasrwydd aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;

(h)a yw'r gofalydd maeth preifat, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen;

(i)sut y gwneir penderfyniadau am ofal y plentyn; ac

(l)a yw'r cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, neu unrhyw berson arall y trefnwyd cyswllt ag ef, yn foddhaol ar gyfer y plentyn.