xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“y Ddeddf”) yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddiddymu Cynghorau Iechyd Cymuned ac i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned newydd ar gyfer Ardaloedd yng Nghymru.

Mae Atodlen 7A i'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â Chynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan adran 20A.

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, yn trosglwyddo swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr.

Mae erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Mae erthygl 2(2) yn darparu ei fod yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal ddaearyddol Sir Gaerfyrddin (sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli a Dinefwr).

Mae erthygl 2(3) yn darparu bod ffin Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn amrywio yn unol â ffin Sir Gaerfyrddin, ar wahân i unrhyw amrywiadau sy'n codi o'r amgylchiadau a amlinellir yn erthygl 2(4).

Mae erthygl 3 yn rhagnodi swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd holl swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad trosglwyddo (1 Ebrill 2006).

Mae erthygl 5(1) yn darparu y bydd aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006, yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn dod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw. Mae erthygl 5(2) yn darparu mai tymor swydd yr aelodau hynny a drosglwyddodd o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr fydd gweddill eu tymhorau presennol ar y dyddiad trosglwyddo.

Mae erthygl 6 yn darparu y bydd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a phob swyddog arall o Gynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr o 1 Ebrill 2006 ymlaen yn darparu gwasanaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Bydd y Prif Swyddog a'r swyddogion eraill yn parhau yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

Mae erthygl 7 yn darparu y bydd Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn paratoi'r datganiad o gyfrifon blynyddol ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr o fewn dau fis o'r dyddiad trosglwyddo.

Mae erthygl 8 yn darparu bod rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ddarparu adroddiadau yn unol â rheoliad 16(1) o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr erbyn 1 Medi 2006.

Mae erthygl 9 darparu ar gyfer dilyniant wrth arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 10 yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.