Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac
Cymhwyso darpariaethau Deddf 20002.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—
(a)
at swyddog safonau moesegol neu at y swyddog hwnnw yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(b)
at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(c)
at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
(ch)
at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
(d)
at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau3.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2005 gydag addasiadau4.
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 2005 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
Y Gyfraith Ddifenwi5.
At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan—
(a)
aelod o staff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”); neu
(b)
berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo'r Ombwdsmon
mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.