ATODLEN 5DEFAID: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR
Pan roddir triniaeth i ddafad, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
Ysbaddu1
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 mis oed neu'n hŷn na hynny.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen2
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
Fasdoriad3
Rhaid rhoi anesthetig.
Digornio4
Rhaid rhoi anesthetig.
Tocio cynffonnau5
Ym mhob achos, rhaid cadw digon o'r gynffon i guddio llawes goch dafad fenyw neu anws dafad wryw.
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber neu ddyfais arall i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r gynffon, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.