- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
53.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
54.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 5 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —
(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b)yn ail, i ostwng ADG;
(c)yn drydydd, i ostwng CCG;
(ch)yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(d)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(dd)yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —
(a)pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 16(1) a 16(7),
(i)mae GFF yn £1,225; a
(ii)y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(b)pan fo rheoliad 16(3)(a) neu (c) yn gymwys
(i)GFF yw £610; a
(ii)y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(c)pan fo rheoliad 16(3)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 17(3) yn gymwys—
(i)GFF yw £610; a
(ii)gostyngir £610 ar y cyfraniad cyn iddo gael ei gymhwyso yn erbyn GFF;
(ch)pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf) —
(i)GFF yw dim;
(ii)nid oes gostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliadau 16 a 17; a
(iii)mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(d)Pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS —
(i)GFF yw dim;
(ii)gostyngir £1,225 ar y cyfraniad; a
(iii)mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(dd)pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(4) Yn y rheoliad hwn —
(a)ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 26;
(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 27;
(c)PLA yw swm y lwfans dysgu rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir o dan reoliad 28 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans);
(ch)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys, heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng, hawl i'w gael o dan Ran 6;
(d)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a)£2,620, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b)£4,740, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c)£4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch)£4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d)£3,385, yn achos myfyriwr yng nghategori 5;
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a)£2,370, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b)£4,315, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c)£3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch)£3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d)£3,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 42 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(8) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(9) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £610 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(10) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,225 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(11) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: