Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rheoliadau 4, 52 ac Atodlen 4, 62 a 74

ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 1

Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon —

ystyr “AEE” (“EEA”) yw Ardal Economaidd Ewropeaidd sef y Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw —

(a)

o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig o'r AEE —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

o ran person cyflogedig o'r Swistir, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunan-gyflogedig ffin y Swistir neu berson hunan-gyflogedig o'r Swistir—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

(c)

o ran gwladolyn o'r Gymuned Europeaidd sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

(ch)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederaswin y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(1) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE ” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE —

(e)

sy'n weithiwr yng Nghymru; a

(f)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gwladolyn o'r Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;

ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE heblaw'r Deyrnas Unedig;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig o'r Swistir” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sy'n berson cyflogedig, heblaw person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sydd —

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunan-gyflogedig” (“self-employed person”) yw —

(c)

o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu

(d)

o ran gwladolyn o'r Swistir, person sy'n berson hunan-gyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunan-gyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunan-gyflogedig, heblaw person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunan-gyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd —

(a)

yn berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunan-gyflogedig o'r Swistir” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sy'n berson hunan-gyflogedig, heblaw person hunan-gyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunan-gyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sydd —

(a)

yn berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod —

(a)y person hwnnw;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(5At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r AEE; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,

i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r AEE.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person —

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd

4.—(1Person —

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;

(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)â chaniatâd I ddod i mewn neu i aros—

(b)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(c)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâ d i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o'u teulu

6.—(1Person —

(a)sydd —

(i)yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunan-gyflogedig o'r EEA;

(ii)yn berson cyflogedig o'r Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig o'r Swistir;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunan-gyflogedig ffin yr EEA;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn syrthio o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd —

(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(3), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE (4).

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person —

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o'r GE

9.—(1Person —

(a)sydd naill ai —

(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sydd —

(i)yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

10.—(1Person —

(a)sy'n wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion o'r Swistir

11.  Person —

(a)sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(1)

Cm. 4904.

(2)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(3)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D-Dn 1968 (II) t.475).

(4)

ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(Cm 2073, ) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(Cm 2183);

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources