xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —
(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3. Person —
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
4.—(1) Person —
(a)sy'n ffoadur;
(b)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;
(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(c)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(ch)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5.—(1) Person—
(a)â chaniatâd I ddod i mewn neu i aros—
(b)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(c)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;
(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâ d i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;
(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
6.—(1) Person —
(a)sydd —
(i)yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunan-gyflogedig o'r EEA;
(ii)yn berson cyflogedig o'r Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig o'r Swistir;
(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv)yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunan-gyflogedig ffin yr EEA;
(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn syrthio o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7. Person sydd —
(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(1), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE (2).
8.—(1) Person —
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b)sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.
9.—(1) Person —
(a)sydd naill ai —
(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;
(b)sydd —
(i)yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
10.—(1) Person —
(a)sy'n wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
11. Person —
(a)sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D-Dn 1968 (II) t.475).
ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(Cm 2073, ) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(Cm 2183);