Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rheoliad 52

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

1.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.

2.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

(b)bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol—

(i)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2007; neu

(ii)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2007;

(ch)ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

(d)ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

(e)nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.

3.  Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 1 Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

4.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 5 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

5.  Y digwyddiadau yw —

(a)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.

6.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.

7.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

8.—(1Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

9.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;

(b)os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 11 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu sicrhau hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;

(c)os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.

Talu

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—

(a)cyn ei fod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a

(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes ei fod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai ei fod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 53(20).

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol —

(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben; a

(b)os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Gordalu

11.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources