xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Os yw arolygydd o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cludo, neu i'w cludo, mewn ffordd sydd—
(a)yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn; neu
(b)yn dramgwydd yn erbyn y Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn,
caiff gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, gan roi rhesymau dros y gofynion.
(2) Caiff arolygydd yn benodol—
(a)gwahardd cludo'r anifeiliaid, naill ai am gyfnod amhenodol neu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad;
(b)pennu o dan ba amodau y caniateir i'r anifeiliaid gael eu cludo;
(c)ei gwneud yn ofynnol i'r daith gael ei chwblhau, neu i'r anifeiliaid gael eu dychwelyd i'w man ymadael, gan ddilyn y llwybr mwyaf uniongyrchol, ar yr amod na fyddai'r dull gweithredu hwn yn peri i'r anifeiliaid ddioddef yn ddiangen;
(ch)ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid nad ydynt yn ffit i gwblhau eu taith gael eu dadlwytho, eu dyfrhau, eu bwydo neu eu gorffwys;
(d)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cadw mewn llety addas lle cânt ofal priodol hyd nes y bydd y broblem a nodwyd yn yr hysbysiad wedi'i datrys;
(dd)ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda neu eu lladd heb boen; neu
(e)ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo neu gynhwysydd gael ei drwsio neu ei amnewid cyn iddo gael ei ddefnyddio i gludo anifeiliaid.
(3) Pan fo'n angenrheidiol at ddibenion adnabod, caiff arolygydd farcio anifail.
(4) Caiff arolygydd gymryd copïau o unrhyw ddogfen a arolygwyd er mwyn canfod a gydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.
(5) Caiff arolygydd gyflwyno i'r perchennog, neu i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros safle rheoli, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau y mae'r arolygydd o'r farn resymol eu bod yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97, neu i gywiro unrhyw doriad o'r Rheoliad hwnnw.
(6) Yn benodol, caiff arolygydd—
(a)ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o anifeiliaid ar safle rheoli gael eu symud o'r safle rheoli;
(b)pennu o dan ba amodau y caiff anifeiliaid aros yno.
(7) Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant blaenorol i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, unrhyw Orchymyn arall a wnaed o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu bwynt 8 Atodiad II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (dychwelyd dogfennau ar ôl cwblhau taith).
(8) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni.
(9) Rhaid i'r person sydd wedi methu â chydymffurfio ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw swm o'r fath sy'n ddyledus yn ddiannod.