Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig (OJ Rhif L 3, 5.1.2005. t.1).

Mae'n darparu hefyd ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros (OJ L 174, 2.7.97 t.1).

Mae'n dirymu (i'r graddau y mae'n effeithiol yng Nghymru) Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997, a weithredodd Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17).

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn gorfodi gofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ynglŷn â chludo (erthygl 5), cludwyr (erthygl 6), llestri gyrru mewn ac allan (erthygl 7), trefnwyr (erthygl 8), ceidwaid (erthygl 9) a chanolfannau cynnull (erthygl 10). Mae'n gorfodi hefyd ofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 mewn perthynas â safleoedd rheoli (erthygl 11). Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn dramgwydd i ddefnyddio safle rheoli nas cymeradwywyd ac i weithredu safle rheoli heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae Rhan 3 yn darparu rhanddirymiadau ynglyn â'r cyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer teithiau nad ydynt yn hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (erthyglau 12 i 19).

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau ac ar gyfer sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu (erthyglau 20 i 23).

Rhoddir pwerau i arolygwyr ei gwneud yn ofynnol i berson cyfreithiol gydymffurfio â'r Gorchymyn, gan gynnwys pwer i stopio taith (erthygl 24).

Mae'n ofynnol i berchenogion a siartrwyr llestri a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ddangos gwybodaeth, os gofynnir iddynt wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a gall yr wybodaeth honno gynnwys plan o'r llestr (erthygl 26).

Awdurdodau lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 29).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.