1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 23 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “unedau” yw unedau cyfeirio disgyblion.
2. Dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) 1994(1) a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Diwygio) 1996(2).
3. Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unedau gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.
4. Nid yw'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007