Effaith cynllun 1992 yn peidio yng Nghymru, gydag arbedion3

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 19922 (“cynllun 1992”) yn effeithiol mewn perthynas â pherson sy'n dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson —

a

sy'n trosglwyddo i gyflogaeth awdurdod tân ac achub Cymreig o gyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub yn Lloegr neu'r Alban neu gyda Bwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon; a

b

a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd gan yr awdurdod y mae'r person yn trosglwyddo o'i gyflogaeth.

3

Pan fo person, ar unrhyw bryd yn y cyfnod sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn dod yn aelod o gynllun 1992 ar ôl dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig—

a

ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym—

i

bydd effaith cynllun 1992 yn peidio mewn perthynas â'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a welir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn (trefniadau trosiannol); a

ii

bydd darpariaethau Cynllun Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn effeithiol mewn perthynas â'r person hwnnw; a

b

ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a oedd yn wasanaeth cyfrifadwy at ddibenion cynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy o dan Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).

4

Mae Cynllun 1992 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod ohono neu yr oedd ganddo hawlogaeth i gael, neu yr oedd yn cael, dyfarndal odano.