ATODLEN 1CYNLLUN PENSIWN NEWYDD Y DIFFODDWYR TÅN (CYMRU)

ATODIAD 2APELAU I FWRDD CANOLWYR MEDDYGOL

9

1

Rhaid i'r canlynol gael eu talu i'r bwrdd a'r aelod adolygu—

a

unrhyw ffioedd a lwfansau (gan gynnwys y rhai sy'n daladwy i'r aelod adolygu am waith a wnaed ar adolygu dogfennau o dan baragraff 4(2)) a ddyfernir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad, neu

b

Pan na fo unrhyw drefniadau o'r fath wedi'u gwneud, unrhyw ffioedd a lwfansau y bydd y Cynulliad yn eu pennu o bryd i'w gilydd.

2

Rhaid i'r ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy o dan is-baragraff (1)—

a

cael eu talu gan yr awdurdod, a

b

cael eu trin at ddibenion paragraff 10 fel rhan o dreuliau'r awdurdod.