Cymudo:cyffredinol
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff person y mae ganddo hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i gael unrhyw bensiwn o dan y Rhan hon gymudo cyfran ohono (“y gyfran a gymudwyd”) am gyfandaliad.
(2) Mae'r cyfandaliad i'w gyfrifo drwy luosi â 12 swm pensiwn y person, sef y gyfran a gymudwyd ar y dyddiad ymddeol.
(3) Ni chaiff person sy'n ymddeol oherwydd afiechyd gymudo unrhyw gyfran o bensiwn afiechyd haen uwch.
(4) Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy—
(a)mewn achos y mae rheol 5(4) neu (5) yn gymwys iddo, un chwarter o swm y pensiwn a gyfrifir yn unol â'r paragraff hwnnw;
(b)mewn unrhyw achos arall, un chwarter o'r swm y mae gan y person hawlogaeth i'w gael ar ffurf pensiwn.
(5) Er mwyn cymudo cyfran o bensiwn rhaid i berson, a hynny—
(a)heb fod yn gynharach na phedwar mis cyn y dyddiad y mae'r person yn bwriadu ymddeol, ond
(b)heb fod yn hwyrach na'r diwrnod cyn y diwrnod y dechreuir talu'r pensiwn,
roi i'r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig o'r cymudo, gan bennu'r gyfran a gymudwyd.
(6) Daw'r hysbysiad cymudo yn effeithiol ar y diwrnod y mae'r person yn ymddeol (“y diwrnod effeithiol”).
(7) Rhaid i'r awdurdod—
(a)lleihau, o'r dyddiad effeithiol, bensiwn y person â'r gyfran a gymudwyd, a
(b)talu'r cyfandaliad, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad effeithiol.
(8) O ran —
(a)pensiwn gohiriedig,
(b)pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod,
(c)pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod, neu
(ch)y naill neu'r llall o'r ddau bensiwn y cyfeirir atynt yn rheol 7 neu'r ddau ohonynt,
mae paragraffau (6) a (7) o'r rheol hon yn effeithiol fel petai'r cyfeiriadau at y diwrnod ymddeol a'r dyddiad effeithiol yn gyfeiriadau at y dyddiad y dechreuir talu'r pensiwn.
(9) At ddibenion y rheol hon—
(a)rhaid ystyried mai swm y pensiwn ar ôl ei leihau yn unol â rheol 12 yw pensiwn aelod â debyd pensiwn; a
(b)rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gynnydd o dan reol 2 neu 3 o Ran 7 o'r Cynllun Iawndal mewn dyfarndal i aelod o'r lluoedd arfog.